Arloesi diwydiannol

Arloesi diwydiannol

Mae cynhyrchu nwyddau a mwyngloddio wedi bod yn rhan hanfodol o economi’r rhanbarth ers canrifoedd. Bu’r Rhufeiniaid yn cloddio plwm yn Helygain, ac yn cynhyrchu teils, briciau a chrochenwaith yn eu fabrica yn Holt. Yma cloddiwyd y Tywodfaen Gwespyr enwog oedd yn ddeunydd adeiladu ar gyfer rhannau helaeth o’r rhanbarth a thu hwnt. Mae amrywiaeth gweithfeydd Dyffryn Maesglas yn y 18fed ganrif, o fwynfeydd copr i felinau chotwm, yn cael ei nodi fel esiampl teilwng o weithgarwch sy’n nodweddiadol o’r Chwyldro Diwydiannol.

Yn sail i’r cwbl oedd y pyllau glo, a’r rheiny â lle’r un mor hollbresennol yn y gogledd-ddwyrain ag oedd pyllau mwy adnabyddus de Cymru yn y rhanbarth honno. Diwydiannau pwysig eraill oedd y gweithfeydd haearn a dur mewn mannau fel y Bers a Shotton, gwaith brics a chrochenwaith Bwcle a Rhiwabon, a’r gwaith awyrennau (yn eu plith y Vickers Wellington) ym Mrychdyn. Denwyd gweithwyr o bob cwr o’r byd i’r gweithfeydd, gan ychwanegu ymhellach at amrywiaeth diwylliant y rhanbarth.

Image: Trwy Garedigrwydd Vicky Perfect