Ein Treftadaeth

Mae Gogledd-ddwyrain Cymru wedi bod ers canrifoedd yn wlad ffin a glan ag arni ddylanwad y Cymry a phobloedd Lloegr a gwledydd dros y môr. Yr amrywiaeth hon sy’n gyfrifol am gyfoeth treftadaeth y rhanbarth a’i gymeriad arbennig.

Dyma rai o’i nodweddion:

  • Ei harwyddocâd cenedlaethol a rhyngwladol
    Mae chwech o saith rhyfeddod Cymru i’w cael yma yn y Gogledd-ddwyrain yn ogystal â Safle Treftadaeth Byd UNESCO, sef traphont Pontcysyllte. [ Darllen mwy ]
  • Eiddo cynhanesyddol
    Fe gafwyd y dystiolaeth gyntaf o bresenoldeb dyn yng Nghymru mewn ogof ym Mhontnewydd, Dyffryn Elwy, ble cafwyd hyd i ddannedd, bwyelli llaw ac esgyrn anifeiliaid wedi eu bwtsiera, yn dyddio yn ôl 225,000 o flynyddoedd cyn Crist. [ Darllen mwy ]
  • Cestyll a gwrthdaro
    Yn ystod yr Oesoedd Canol cynnar fe drowyd Berfeddwlad gogledd-ddwyrain Cymru’n faes brwydr dro ar ôl tro wrth i’r ffin â Lloegr gael ei groesi gan wahanol rai, Sacsoniaid a Normaniaid, oedd am ddwyn y rhan allweddol yma o’r wlad o ddwylo’r Cymry. [ Darllen mwy ]
  • Arloesi diwydiannol
    Mae cynhyrchu nwyddau a mwyngloddio wedi bod yn rhan hanfodol o economi’r rhanbarth ers canrifoedd. Bu’r Rhufeiniaid yn cloddio plwm yn Helygain, ac yn cynhyrchu teils, briciau a chrochenwaith yn eu fabrica yn Holt. Yma cloddiwyd y Tywodfaen Gwespyr enwog oedd yn ddeunydd adeiladu ar gyfer rhannau helaeth o’r rhanbarth a thu hwnt. Mae amrywiaeth gweithfeydd Dyffryn Maesglas yn y 18fed ganrif, o fwynfeydd copr i felinau chotwm, yn cael ei nodi fel esiampl teilwng o weithgarwch sy’n nodweddiadol o’r Chwyldro Diwydiannol. [ Darllen mwy ]
  • Teithio a thrafnidiaeth
    Bu aber y Ddyfrdwy yn hafan i fasnach a theithio ers canrifoedd, ac yn ddolen gyswllt rhwng gogledd Cymru a phob rhan o’r byd. Ar y tir fe adeiladodd y Rhufeiniaid ffyrdd i gysylltu Deva, eu caer llengfilwrol yng Nghaer, â’u caerau yn Canovium (Caerhun, dyffryn Conwy) a Segontiwm (Caernarfon). Yn ystod y Canol Oesoedd roedd llwybrau pererindod yn croesi’r rhanbarth i fannau cysegredig megis ffynnon Gwenffrewi yn Nhreffynnon. [ Darllen mwy ]
  • Bywyd gwledig
    Un brif nodweddion y rhanbarth ydi’r modd y mae diwydiant yn cyd-fyw ag ardal sydd yn ei hanfod yn ardal wledig. [ Darllen mwy ]
  • Llenyddiaeth, iaith a dysg
    Mae cyfraniad y Gogledd-ddwyrain i ddiwylliant a bywyd deallusol Cymru wedi bod yn enfawr. Roedd cyfraniad y rhanbarth yn y Canol Oesoedd yn deillio o waith beirdd yr oes honno, yn eu plith Iolo Goch (a ganodd gerddi i Owain Glyndŵr); Dafydd ab Edmwnd; Guto’r Glyn; Tudur Aled; a Gruffudd Hiraethog. [ Darllen mwy ]
  • Crefydd
    Yn ogystal ȃ’i groesau cerrig Canol Oesol, ei ffynhonnau sanctaidd a’i seintiau, mae gan y rhanbarth ddwy abaty Sisteraidd sef abaty Dinas Basing ac abaty Glyn y Groes oedd yn rhan bwysig o fywydau’r bobl nes i Harri’r Wythfed eu diddymu. Ac er gwaethaf arweiniad esgobion Llanelwy i gyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg fel rhan o’r Diwygiad Protestanaidd, fe barhaodd Pabyddiaeth yn gryf yn y rhanbarth, fel y gwyddom o ferthyriad William Davies (m.1593) a Richard Gwyn (m.1584). [ Darllen mwy ]
  • Ac i orffen… pȇl-droed
    Dydi’r honiad mai rygbi ydi gêm cenedlaethol Cymru ddim yn dal cymaint o ddŵr yma yn y Gogledd-ddwyrain ac ydi o yn y De. Yma, pȇl-droed ydi’r gamp sydd wedi ei wau i mewn I fywydau beunyddiol y bobl. O’r rhanbarth yma daeth un o sêr mawr cyntaf y gamp, Billy Meredith (Billy Meredydd ar lafar gwlad), a anwyd yn y Waun ym 1874, ac a chwaraeodd I dimau Manchester City a Manchester United, a phedwar deg wyth o weithiau dros Gymru. [ Darllen mwy ]