Amdanom ni

Cafodd Fforwm Treftadaeth Gogledd-Ddwyrain Cymru ei sefydlu fel menter gwirfoddol i glodfori, gwarchod a hyrwyddo treftadaeth gyfoethog yr ardal. Y nod yw dod â chymdeithasau hanes a threftadaeth lleol a rhanbarthol, sefydliadau a grwpiau ynghyd – gan gynnwys gwasanaethau amgueddfeydd ac archifdai – i feithrin cydweithio at brosiectau treftadaeth ardal ac i rannu profiadau, arfer dda ac adnoddau.

Ar ben cefnogi myrdd o gymdeithasau hanes a gweithredu fel grŵp lobïo cryf i sicrhau bod treftadaeth leol yn parhau’n amlwg ar yr agenda gwleidyddol (gan ddangos yr effaith gadarnhaol mae treftadaeth yn ei gael ar gymdeithas ac economi ardal) nod y Fforwm yw ysgogi diddordeb ehangach yn nhreftadaeth amrywiol yr ardal a sicrhau cyfleoedd arloesol i gymuned – ac yn arbennig felly’r ieuenctid – ymrwymo. Yn ogystal â chyfrannu tuag at ymwybyddiaeth o le a pherthyn pobl leol, rydym yn gobeithio chwarae rhan yn arddangos Gogledd Ddwyrain Cymru i’r byd mawr, gan amlygu’r dreftadaeth ddiwylliannol gwych a gynigir sy’n gweithio fel magned i dwristiaeth a buddsoddiadau

Cychwynwyd a chymeradwywyd y Fforwm yn swyddogol gan gynulleidfa niferus yn Neuadd Ddinesig Cei Connah, Sir y Fflint ar Fehefin 19eg 2015. Yn 2016 derbyniodd y Fforwm grant helaeth gan Gronfa Loteri Treftadaeth am brosiect i arddangos hanes a threftadaeth yr ardal mewn “100 gwrthrych”. Rydym yn rhagweld y bydd y prosiect hwn yn sicrhau sylfaen gadarn i waith cydweithredol hir-dymor ar fentrau treftadaeth ardal.

Mae datblygiad y Fforwm yn cael ei oruchwylio gan Bwyllgor Llywio sy’n cyfuno amrediad o sgiliau ac arbenigedd mewn dehongli treftadaeth, hanes lleol, ymchwil, archifau, archeoleg a rheoli prosiectau:

Dr Shaun Evans (Cadeirydd)
Fiona Gale
Lorna Jenner
Paul Davies
Heather Price
Alan Tiltman

Heather Williams (Swyddog Treftadaeth Cymuned)

Mae aelodaeth ar gael i unigolion a chymdeithasau.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â ni.