Mae’n ganmlwyddiant eleni ers i’r cynllun i foddi rhan helaeth o Ddyffryn Ceiriog fethu. Y nôd ym 1923 oedd i greu ffynhonnell dwr croyw i Warrington a St. Helens wrth adeiladu dau argae anferth ac ar Ddydd Sadwrn, 15fed Gorffennaf agoriwyd arddangosfa yn Neuadd Goffa Ceiriog sydd yn olrhain yr hanes. Mae Bryn Hughes (cadeirydd ) a Robert Jones wedi gwneud gwaith ymchwil trylwyr iawn dros y misoedd diwethaf i hel gwybodaeth o’r cyfnod ac mae Sylvia a Trevor Jones, Tregeiriog wedi creu arddangosfa drawiadol iawn, agoriwyd gan Huw Ceiriog, cyn weithiwr yn y Llyfrgell Genedlaethol (wedi ymddeol )ac yn frodor o’r dyffryn. Soniodd Huw yn ei araith ffraeth bod creu arddangosfa am rhywbeth na ddigwyddodd yn dipyn o gamp ond, wrth gwrs, dathlu’r ffaith fod ymgyrch mor rhyfeddol o lwyddiannus yn erbyn y cynllun sydd yma. Bydd y neuadd (a’r amgueddfa ) ar agor bob Dydd Sadwrn tan, ac yn cynnwys, 16eg Medi ( rhwng 1.00pm a 4.00pm). Fel arall, os oes grwpiau â diddordeb, efallai y bydd modd i’r gofalwr, Adrian Richards agor y neuadd ar adegeu cyfleus eraill a chewch gysylltu i drefnu trwy ffonio 01691 718076.
Mae’r arddangosfa’n hatgoffa o gyfnod pan ddaethom o fewn trwch blewyn o golli rhan sylweddol o’n dyffryn hardd. Buasem wedi colli tair mil ar ddeg o erwau o dir ( tua pum milltir o hyd ac un rhan o dair o’r dyffryn), tri phentre, wyth deg dau o gartrefi, dwy ysgol, dwy dafarn, dwy swyddfa bost, chwe siop, dwy fynwent, eglwys a phump o gapeli. Pwy a wyr pa effaith fuasai wedi bod ar fywydau’r trigolion ar y pryd, a’n cynefin ni heddiw, pe bai’r cynllun dadleuol yma wedi’i wireddu ?
Felly, dewch draw i Ddyfryn Ceiriog i gael profi harddwch y fro ac i lawn sylweddoli beth yn union fuasai wedi’i golli – rhan o’n gwlad a ddisgrifiwyd gan neb llai na David Lloyd George, a brotestiodd yn gryf yn erbyn y cynllun, fel “dipyn bach o’r nefoedd ar y ddaear “. Yn wir, yn ogystal â’r arddangosfa, mae yna gymaint o drysorau eraill i’w rhyfeddu atynt yn y neuadd ei hun a’r amgueddfa. Chewch chi mo’ch siomi !
Blog articles will only appear in the language they are provided in by the author.
Yn yr iaith y’u hysgrifennwyd gan yr awdur yn unig y bydd yr erthyglau blog yn ymddangos.