Pêl-droed

Pêl-droed

Dydi’r honiad mai rygbi ydi gêm cenedlaethol Cymru ddim yn dal cymaint o ddŵr yma yn y Gogledd-ddwyrain ac ydi o yn y De. Yma, pȇl-droed ydi’r gamp sydd wedi ei wau i mewn I fywydau beunyddiol y bobl. O’r rhanbarth yma daeth un o sêr mawr cyntaf y gamp, Billy Meredith (Billy Meredydd ar lafar gwlad), a anwyd yn y Waun ym 1874, ac a chwaraeodd I dimau Manchester City a Manchester United, a phedwar deg wyth o weithiau dros Gymru.

Ac nid Billy Meredydd ydi’r unig un o’r rhanbarth i serennu ar y cae pêl droed. Mae yma draddodiad hir ac anrhydeddus o chwaraewyr pêl-droed penigamp. Yn ystod yr 20fed ganrif bu nifer o chwaraewyr Cymreig rhyngwladol â chysylltiadau agos â’r rhanbarth, yn eu plith Ron Davies, Mike England, Barry Horne, Mark Hughes, Joey Jones, Kevin Ratcliffe, Ian Rush, Gary Speed, Micky Thomas, ac wrth gwrs Dai Davies.

Agwedd arall ar y traddodiad ydi Clwb Pȇl-droed Wrecsam, a ffurfiwyd ym 1864. Clwb Wrecsam ydi’r clwb pêl-droed hynaf yng Nghymru a’r clwb proffesiynol trydydd hynaf yn y byd.

Fel yn hanes Billy Meredydd, mae traddodiad hefyd o gysylltiadau pêl-droed â threfi dros y ffin. Yn niwedd y 19eg ganrif bu i dros 50,000 o Gymry fudo i Lerpwl yn unig i gael gwaith. Mae enwau Cymraeg a strydoedd a adeiladwyd gan Gymry’n britho’r ddinas, yn arbennig felly yn ardaloedd Anfield, Walton a Toxteth. O ganlyniad i hyn i gyd, bu rhai’n cyfeirio at Lerpwl fel prifddinas answyddogol gogledd Cymru, a hyd heddiw mae selogion pêl-droed o ogledd-ddwyrain Cymru’n teithio yno i wylio gemau a chefnogi timau Lerpwl ac Everton.