Hanes Gogledd Ddwyrain Cymru Mewn 100 Gwrthrych

Mae’r Fforwm wedi derbyn grant gan Gronfa Treftadaeth y Loteri i hyrwyddo hanes yr ardal drwy gant gwrthrych. Dewiswyd y gwrthrychau hyn gan grwpiau hanes lleol i adlewyrchu beth mae cymunedau Gogledd Ddwyrain Cymru yn ei gredu sydd fwyaf arwyddocaol am hanes a threftadaeth yr ardal a’i threfi a phentrefi neilltuol. Dewiswyd y gwrthrychau o lefydd ar hyd ac ar led yr ardal, gwrthrychau sy’n rhychwantu canrifoedd o hanes ac archeoleg ac sy’n ymwneud â dwsinau o themau, pynciau, cymeriadau a digwyddiadau allweddol. Mae’r casgliad yn cyfuno arteffactau o arwyddocâd rhyngwladol gydag eitemau o bwysigrwydd lleol a phersonol aruthrol. Maent i gyd yn llawn storïau pwysig ac ar y cyd maent yn arddangos treftadaeth gyfoethog ac amrywiol yr ardal.