-
Gwe17Tach2023Maw31Rhag2024
Fy enw i yw Lowri, a fi yw Swyddog Allgymorth Cymunedol Gogledd Cymru ar gyfer ‘Hawlio Heddwch: Prosiect Canmlwyddiant Deiseb Heddwch y Menywod’, ariannwyd gan
Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae'r prosiect yn ddathliad blwyddyn gron o'r 390,296 o ferched Cymru a lofnododd ddeiseb dros heddwch, a'i chyflwyno i fenywod America yn Efrog Newydd, yn gofyn iddynt ddefnyddio eu dylanwad ar lywodraeth America.
Yn ystod 2023/24, bydd y prosiect yn cynnal digwyddiadau a gweithgareddau ledled Cymru i Gofio eu stori, Dathlu’r canmlwyddiant a Gwireddu eu dymuniadau trwy ysbrydoli gweithredoedd dros heddwch yn y dyfodol.Rydym wrthi'n meithrin partneriaethau gyda sefydliadau a grwpiau ledled Cymru i ddarparu gweithgareddau a digwyddiadau wedi'u hariannu gan y prosiect, a byddai hi’n wych petaech chi eisiau cymryd rhan. Gallai'r gweithgareddau fod yn sgyrsiau, gweithdai, digwyddiadau addysgol, arddangosfeydd bach, a mwy... Rydym am fod yn hyblyg er mwyn sicrhau ein bod yn cynhyrchu gweithgareddau cyffrous a diddorol, felly byddem wrth ein bodd yn clywed eich mewnbwn ar y ffordd orau o gydweithio.
O fis Tachwedd byddwn hefyd yn chwilio am nifer fawr o wirfoddolwyr i drawsgrifio'r miloedd o enwau ar y ddeiseb, fel y gall cenedlaethau'r dyfodol gweld pwy ei lofnododd. Efallai gall eich sefydliad ein helpu yn ein hymgais?I ddysgu mwy am y prosiect, ewch i: Apêl Merched dros Heddwch, 1923-24 - Welsh Centre for International Affairs (wcia.org.uk)
Os hoffech drafod cymryd rhan, neu ddysgu mwy am y prosiect, bydden i wrth fy modd petaech chi’n cysylltu.Dymuniadau gorau,
Lowri Kirkham
Swyddog Ymgysylltu Cymunedol, gogledd Cymruhttps://www.wcia.org.uk/peace-heritage/womens-peace-petition/
Hoffai tîm Deiseb Heddwch y Merched a Gwasanaethau Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru eich gwahodd i:LowriKirkham@academiheddwch.cymru 100 mlynedd yn ôl, trefnodd Merched Cymru ddeiseb wedi’i harwyddo gan 390,296 o fenywod i’w hanfon i America mewn cist dderw fawr gyda’r nod o greu byd mwy heddychlon ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Drwy gydol 2024 rydym yn rhannu stori’r ddeiseb ledled Cymru a thu hwnt yn ogystal â recriwtio gwirfoddolwyr i helpu i drawsgrifio’r ddeiseb mewn partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bydd y prynhawn hynod ddiddorol hwn yn cynnwys: • Sgwrs fer am ddeiseb Heddwch Merched Cymru gan dîm cymunedol deiseb Heddwch. • Clywch gan dîm yr Archif am rywfaint o'u hymchwil a sut y gallant eich helpu i ddarganfod eich gorffennol. • Dysgwch am drawsgrifio neu os ydych eisoes yn wirfoddolwr trawsgrifio mynnwch awgrymiadau a chyngor. • Gweld y tudalennau deiseb sydd ar gael o'ch ardal.
Prynhawn archif ym Mhenarlâg ar ddydd Gwener 15 Mawrth, 1pm - 3.30pm yn Archifau Penarlâg, Yr Hen Reithordy, Rheithordy Ln, Penarlâg, Glannau Dyfrdwy CH5 3NN. Bydd lluniaeth ar gael. Mae'r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim ac fe'i cynhelir trwy gyfrwng y Saesneg. I gadw lle AM DDIM, atebwch neu e-bostiwch –