Bywyd gwledig

Bywyd gwledig

Un brif nodweddion y rhanbarth ydi’r modd y mae diwydiant yn cyd-fyw ag ardal sydd yn ei hanfod yn ardal wledig. Mae trefi amlwg megis Corwen, Dinbych, yr Wyddgrug, Llangollen, y Rhyl, Rhuthun a Wrecsam wedi eu lleoli ger ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol, yn eu plith Bryniau Clwyd, Dyffryn y Ddyfrdwy, Mynydd Hiraethog a Dyffryn Clwyd. Yn y llefydd hyn, amaethyddiaeth sydd ac oedd yn ben, ac roedd dylanwad yr ystadau mawr – Gwysaney (Gwysannau), Cinmel, Lleweni, Mostyn, Trevalyn (Trefalyn) a Wynnstay – yn fawr ar faterion lleol o gyfnod y Canol Oesoedd hwyr hyd at y 20fed ganrif.