Eiddo cynhanesyddol

Penycloddiau

Fe gafwyd y dystiolaeth gyntaf o bresenoldeb dyn yng Nghymru mewn ogof ym Mhontnewydd, Dyffryn Elwy, ble cafwyd hyd i ddannedd, bwyelli llaw ac esgyrn anifeiliaid wedi eu bwtsiera, yn dyddio yn ôl 225,000 o flynyddoedd cyn Crist.

Yn Rhuddlan cafwyd hyd i’r enghreifftiau cynharaf o waith celf i’w darganfod hyd yma yng Nghymru, sef cerrig mȃn wedi’u harddurno o’r cyfnod Mesolithig

Mae Carnedd y Gop (neu Gop-y- Goleuni), carnedd o’r cyfnod Neolithig yn Nhrelawnyd, yn un o’r henebion adeiledig mwyaf ym Mhrydain. Mae’r olygfa odidog o’i safle’n cynnwys dyffryn Clwyd ar ei hyd ac yn cyrraedd i lawr at y môr. Tua diwedd yr Oes Efydd Gynnar roedd yna weithdai’n cynhyrchu offer a thaclau efydd, oedd yn fetal a thechnoleg arloesol at y pryd, ar safleoedd megis Parc Acton, ac yn cael eu hallforio oddi yno ar draws gogledd Ewrop. Mae clogyn aur yr Wyddgrug, campwaith sy’n dyddio yn ôl i 1900-1600 C.C. ac sydd bellach yn yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain, yn un o’r darganfyddiadau cynhanesyddol mwyaf trawiadol erioed o waith aur dalennog.

Yn ystod yr Oes Haearn fe adeiladwyd cadwyn o fryngaerau ar draws Bryniau Clwyd gan y llwythau “Celtaidd” lleol, y Deceangli a’r Ordovices (eu henwau Rhufeinig), fu’n brwydro yma yn erbyn y Rhufeiniaid o’r flwyddyn 48 O.C. ymlaen.

Image: © Crown copyright: RCAHMW