Llenyddiaeth, iaith a dysg

Llenyddiaeth, iaith a dysg

Mae cyfraniad y Gogledd-ddwyrain i ddiwylliant a bywyd deallusol Cymru wedi bod yn enfawr. Roedd cyfraniad y rhanbarth yn y Canol Oesoedd yn deillio o waith beirdd yr oes honno, yn eu plith Iolo Goch (a ganodd gerddi i Owain Glyndŵr); Dafydd ab Edmwnd; Guto’r Glyn; Tudur Aled; a Gruffudd Hiraethog.

Dewisiwyd tref Caerwys fel lleoliad dwy eisteddfod arloesol ym 1523 ac ym 1567. Mae “Llyfr Du Dinas Basing” o’r 15fed Ganrif a luniwyd gan Gutun Owain yn un o lawysgrifau canoloesol pwysicaf Cymru, tra bod cronicl hanes y byd Elis Gruffydd (1490–1552) o’r Gronant, a ysgrifennodd yn ystod ei amser fel milwr yn Ffrainc, yn un o’r gweithiau llenyddol mwyaf uchegeisiol fu erioed yn yr iaith Gymraeg. Roedd cyfraniad y rhanbarth i’r Dadeni Dysg yng Nghymru’n allweddol, drwy waith pobl yn cynnwys William Salesbury (m. 1584), Humphrey Llwyd (m. 1568), Richard Clough (m. 1570), Gabriel Goodman (m. 1601),
William Morgan (m. 1604) a John Davies, Mallwyd (m. 1644).

Bu i’r rhanbarth hefyd chwarae rhan blaenllaw yn Adfywiad Diwylliannol Cymreig y 19eg ganrif. Roedd rhan Eisteddfod Fawr Llangollen 1858 yn allweddol yn hyn o beth ac yn fan cychwyn gyrfa lenyddol John Ceiriog Hughes (1832-1887). Ar ben hynny, fe gynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol fodern gyntaf yn Ninbych, ddwy flynedd yn ddiweddarach. Cyfranwyr pwysig eraill i lenyddiaeth Cymraeg o’r rhanbarth oedd: Daniel Owen o’r Wyddgrug (1836–1895), nofelydd Cymraeg gorau’r 19eg ganrif; Thomas Gee (1815-1898) y gŵr oedd, drwy ei waith argraffu, yn bennaf gyfrifol am sbarduno a gosod agenda gwleidyddiaeth radical Cymru’r cyfnod; a’r dramodydd a’r actor Emlyn Williams (1905-1987) o Ben-y- Ffordd ger Llanasa.