Bu aber y Ddyfrdwy yn hafan i fasnach a theithio ers canrifoedd, ac yn ddolen gyswllt rhwng gogledd Cymru a phob rhan o’r byd. Ar y tir fe adeiladodd y Rhufeiniaid ffyrdd i gysylltu Deva, eu caer llengfilwrol yng Nghaer, â’u caerau yn Canovium (Caerhun, dyffryn Conwy) a Segontiwm (Caernarfon). Yn ystod y Canol Oesoedd roedd llwybrau pererindod yn croesi’r rhanbarth i fannau cysegredig megis ffynnon Gwenffrewi yn Nhreffynnon.
Cafodd y clirio coed o rannau helaeth o’r Gogledd-ddwyrain ym 1277 effaith drawiadol ar y dirwedd, a chyfrannodd yn sylweddol at lwyddiant ymgyrch diweddarach Edward I I orchfygu Gwynedd. Yn ddiweddarach eto, roedd y Lôn Bost o Lundain i Ddulyn yn gyswllt hanfodol rhwng Llundain a’r Iwerddon, tra bod camlas Llangollen yn cysylltu porthladd Lerpwl, diwydiannau’r gogledd-ddwyrain Cymru a’r canolfannau cynhyrchu yng ngorllewin Canolbarth Lloegr. Yn y 18fed ganrif, daeth y rhanbarth yn gyrchfan i dwristiaid cynnar, wedi eu hysbrydoli’n rhannol gan ysgrifau awduron megis Thomas Pennant (1726-98).
Image: Trwy Garedigrwydd Glyn Jones