Dros y cenedlaethau, cydnabuwyd y teulu Mostyn fel un o deuluoedd tiriog mwyaf dylanwadol Cymru, ac mae’r casgliadau a grëwyd ganddynt yn sail gadarn i ymchwil pellach. Trwy gyfrwng cyflwyniadau byrion, bydd y
symposiwm cyhoeddus undydd hwn yn dangos ystod o astudiaethau’n seiliedig ar Lawysgrifau Mostyn y Llyfrgell Genedlaethol a chasgliadau
perthynol.
Mewn cydweithrediad â Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru a Chanolfan Stephen Colclough ar gyfer Hanes a Diwylliant y Llyfr ym Mhrifysgol Bangor, bydd y Symposiwm yn dangos gwerth diwylliannol ac ymchwil casgliadau un o blastai enwocaf Cymru.
***Digwyddiad trwy gyfrwng y Saesneg***
***Mynediad am ddim trwy docyn***
https://www.ticketsource.co.uk/llgcnlw/
Llyfrgell 01970 632800
Blog articles will only appear in the language they are provided in by the author.
Yn yr iaith y’u hysgrifennwyd gan yr awdur yn unig y bydd yr erthyglau blog yn ymddangos.