Ffurfiwyd Cymdeithas Ddinesig Rhuthun a’r Cylch yn 1988. ‘Rydym yn gymdeithas wirfoddol sydd yn:
- Hybu balchder dinesig
- Sicrhau fod nodweddion hanesyddol ac o ddiddordeb i’r cyhoedd yn cael eu cadw, amddiffyn, datblygu a’u gwella
- Gweithredu fel corff cydgysylltu lleol
- Cynnal cyfarfodydd, darlithiau ag arddangosfeydd
‘Rydym hefyd yn gweithio i drefnu Penwythnosau Treftadaeth blynyddol sydd wedi bod mor llwyddianus ers eu sefydliad yn Rhuthun yn 2003.
‘Rydym yn rhoi gwobr bob blwyddyn i berchnogion adeilad, newydd neu wedi ei adfer, sydd wedi gwella a chyfoethogi’r amgylchedd
‘Rydym yn cadw llygad ar unrhyw faterion sy’n effeithio ar ansawdd yr amgylchedd ac yn cysylltu a’r corff priodol – tomeni ysbwriel, arwyddion anghyfreithlon, materion parcio, tirlun gwael, ag ati.