Carnedd Gylchog Bryneglwys

Detholiad o ddeunydd o safle archeolegol arwyddocaol a gloddiwyd yn ddiweddar ym
Mryneglwys, Sir Ddinbych.
Mae’r heneb ddefodol wedi’i ddatblygu dros gyfnod hir o amser er bod y prif gyfnod o weithgarwch o
fewn yr Oes yr Efydd gynnar. Mae yna esgyrn wedi’u hamlosgi, yn aml yn cyd-fynd â darnau o botiau ac,
mewn rhai achosion, offer fflint.
Mae’r ymchwiliad i’r garnedd gylchog wedi codi o chwilfrydedd perchennog y tir a chafodd ei ymchwil
gan Grŵp Archeoleg Bryniau Clwyd (GABC). Mae ymchwiliad y garnedd gylchog wedi’i gwblhau er bod
gwaith yn parhau i ddadansoddi a chofnodi’r canfyddiadau o’r ymchwiliad ac i archwilio’r dirwedd
ehangach.
Mae’r arddangosfa yn rhannu rhai o’r canfyddiadau cynnar gyda phobl sy’n byw yn yr ardal, sydd yn rhan
o’u hetifeddiaeth ddiwylliannol.
Mae GABC yn grŵp o wirfoddolwyr sy’n gweithio o dan fentoriaeth archeolegydd proffesiynol profiadol.

For further information visit our website www.cragnorthwales.wordpress.com or e mail info@cragnorthwales.co.uk




Blog articles will only appear in the language they are provided in by the author.
Yn yr iaith y’u hysgrifennwyd gan yr awdur yn unig y bydd yr erthyglau blog yn ymddangos.

Related posts