Cyfres o lwybrau digidol yw North East Wales Trails a ddatblygwyd gan gymunedau lleol ledled Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsham i’ch helpu chi ddarganfod mwy am yr ardal hynod ddiddorol hon. Mae pob llwybr yn tynnu sylw at yr hyn sy’n arbennig, gan fod yn llawn gwybodaeth, lluniau a straeon.
Mae’r llwybrau mor amrywiol â’r ardal. Ewch am dro ar hyd yr arfordir, darganfyddwch ein cefn gwlad neu ymdroelliwch o amgylch un o’r pentrefi. Darganfyddwch dreftadaeth gyfoethog yr ardal – o’r caerau i gestyll cerrig – neu archwiliwch ein dreftadaeth ddiwydiannol. Gwelwch sut mae gweithdy calch yn gweithio a gwrandewch ar sut beth oedd gweithio gyda’r merlod yn ddwfn o dan y ddaear yn ein pyllau glo.
Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru aâr Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Blog articles will only appear in the language they are provided in by the author.
Yn yr iaith y’u hysgrifennwyd gan yr awdur yn unig y bydd yr erthyglau blog yn ymddangos.