Prynhawn archif ym Mhenarlâg

Hoffai tîm Deiseb Heddwch  y Merched  a Gwasanaethau Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru eich gwahodd i:Prynhawn archif ym Mhenarlâg ar ddydd Gwener 15 Mawrth, 1pm – 3.30pm yn Archifau Penarlâg, Yr Hen Reithordy, Rheithordy Ln, Penarlâg, Glannau Dyfrdwy CH5 3NN.Bydd lluniaeth ar gael. Mae’r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim ac fe’i cynhelir trwy gyfrwng y Saesneg.I gadw lle AM DDIM, atebwch neu e-bostiwch – LowriKirkham@academiheddwch.cymru100 mlynedd yn ôl, trefnodd Merched Cymru ddeiseb wedi’i harwyddo gan 390,296 o fenywod i’w hanfon i America mewn cist dderw fawr gyda’r nod o greu byd mwy heddychlon ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Drwy gydol 2024 rydym yn rhannu stori’r ddeiseb ledled Cymru a thu hwnt yn ogystal â recriwtio gwirfoddolwyr i helpu i drawsgrifio’r ddeiseb mewn partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru.Bydd y prynhawn hynod ddiddorol hwn yn cynnwys:•       Sgwrs fer am ddeiseb Heddwch Merched Cymru gan dîm cymunedol deiseb Heddwch.•       Clywch gan dîm yr Archif am rywfaint o’u hymchwil a sut y gallant eich helpu i ddarganfod eich gorffennol.•       Dysgwch am drawsgrifio neu os ydych eisoes yn wirfoddolwr trawsgrifio mynnwch awgrymiadau a chyngor.•       Gweld y tudalennau deiseb sydd ar gael o’ch ardal.Edrychwn ymlaen at eich croesawu bryd hynny a rhannu hanes y ddeiseb a’r merched lleol a gyfrannodd ati.

Lowri Kirkham – Community Outreach officer




Blog articles will only appear in the language they are provided in by the author.
Yn yr iaith y’u hysgrifennwyd gan yr awdur yn unig y bydd yr erthyglau blog yn ymddangos.

Related posts