Dewch i gyfarfod â James Kendall a fydd yn eich tywys yn ôl mewn amser. Ar eich siwrnai, bydd cyfle i gwrdd â’n rheolwr safle, Becky Good, sydd â’r gyfrinach i ddatgloi enwau’r coed ar y safle heddiw. Cewch eich synnu gan oedran y castell y gallwch ei weld o ben y clogwyn. Darganfyddwch pwy fu’n cloddio yn yr hen hen ogofâu… a phwy sydd wrthi rŵan. Yn olaf, dilynwch y llwybr sy’n arwain at y gaer a’i thrysorau cudd.
Hyd: 4 awr
Pellter: 3km / 1.5 milltir gyda gweithgareddau ar hyd y daith
Ewch ar y bws wrth y safleoedd canlynol:
9.30yb – Y tu ôl i Faes Parcio’r Foryd, Ffordd y Foryd, Bae Cinmel, Y Rhyl, LL18 5AY
9.45yb – Gyferbyn ag Eglwys y Santes Fair, Tywyn, Abergele LL22 9HE
10.00yb – Maes Parcio Traeth Pen-sarn, Pen-sarn, Abergele LL22 7PP
10.15yb – Maes Parcio Tesco, Abergele LL22 7AL
Yn cyrraedd Coed y Gopa i gychwyn am 10.30yb. Byddwch yn gadael y safle am 2.30yp i ddychwelyd i’ch safleoedd bysiau cyn 3.30yp.
Gradd: Cymedrol
Rhaid i blant o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol.
Rhaid archebu lle.
https://www.woodlandtrust.org.uk/about-us/where-we-work/wales/
Facebook https://www.facebook.com/events/2073557929614125/
Blog articles will only appear in the language they are provided in by the author.
Yn yr iaith y’u hysgrifennwyd gan yr awdur yn unig y bydd yr erthyglau blog yn ymddangos.