Gwir Gofnod o Gyfnod:Darganfod Hanes a Threftadaeth Menywod yng ngogledd-ddwyrain Cymru

Cynhelir ysgol undydd, am ddim, ar DDYDD IAU 5ed MAI yn dwyn y teitl ‘Gwir Gofnod o Gyfnod: Darganfod Hanes a Threftadaeth Menywod yng ngogledd-ddwyrain Cymru’, a bydd yn edrych ar Hanes a Threftadaeth Menywod yn y ardal, ar y cyd ag Adran Hanes Prifysgol Glyndŵr.  Rydym yn gobeithio denu diddordeb yn y digwyddiad o blith myfyrwyr y Brifysgol, aelodau AMC yn yr ardal a’r gymuned yn gyffredinol yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Byddwn yn cysylltu â’r Archifau Sirol, yr amgueddfeydd a’r llyfrgelloedd i godi ymwybyddiaeth o’r digwyddiad arloesol hwn a byddwn yn gwahodd colegau ac ysgolion lleol i ymuno â ni.

Bydd rhaglen amrywiol a diddorol iawn o sgyrsiau: ar hanes Seilam Dinbych, bywydau menywod fu’n gweithio mewn ffatrïoedd fel Courtaulds, Johnson’s Fabrics a Graessers Salicylates, hanes timau pêl-droed menywod yn yr ardal a hanes mwy diweddar y menywod sydd wedi cynrychioli rhanbarth gogledd-ddwyrain Cymru yn y Cynulliad Cenedlaethol / y Senedd. At hyn bydd panelau trafod a ffilmiau i ddarlunio agweddau ar hanes a threftadaeth menywod. Bydd yn rhaglen fywiog a deniadol – gyda rhywbeth i bawb. Bydd digon o amser i sgwrsio a rhwydweithio hefyd.

Rydym yn cynllunio arddangosfeydd a chynhelir Sioe ar Daith i annog pobl leol i ddod ag unrhyw ddeunyddiau sy’n berthnasol i hanes menywod, yn enwedig eitemau’n ymwneud â chwaraeon a mudiad Sefydliad y Merched, i’w dangos i arbenigwyr. Mae’n argoeli i fod yn ddiwrnod llawn a chyffrous ac rydym yn ddiolchgar i Kathryn Ellis a Peter Bolton am hwyluso’r trefniadau ym Mhrifysgol Glyndŵr.

Digwyddiad am ddim ydy hwn. Cofrestru trwy: info@archifmenywodcymru.org

Dilyn y dolenni isod am fwy o wybodaeth:




Blog articles will only appear in the language they are provided in by the author.
Yn yr iaith y’u hysgrifennwyd gan yr awdur yn unig y bydd yr erthyglau blog yn ymddangos.

Leave a Comment