Casgliad JT Burrows Prestatyn

Cafodd casgliad mawr o gardiau post, negatifau gwydr, ffotograffau teuluol a gwaith papur yn ymwneud á’r argraffydd a’r ffotogarffydd John Trueman Burrows (1865 – 1954) ei roi i Fforwm Treftadaeth Gogledd Ddwyrain Cymru yn 2022 gan aelod o’r teulu a oedd yn sylweddoli gwerth cadw’r casgliad. Mae’r casgliad yn gofnod hynod o fywyd o’r 1890au hyd at ganol yr ugeinfed ganrif.

Symudodd J T Burrows i Brestatyn yn yr 1890au yn dilyn priodi Jane Whiteford, yr oedd ei theulu’n byw yn Fferm Llawndy, Talacre. Sefydlodd siop a llyfrgell ar gornel y Stryd Fawr a Rhodfa’r Brenin ym Mhrestatyn lle’r oedd yn gwerthu cardiau post wedi’u seilio ar ei ffotograffau o Brestatyn a’r cyffiniau. Hefyd dechreuodd gynhyrchu’r papur newydd y Prestatyn Weekly yn 1905, fu’n cael ei gyhoeddi tan yr 1930au.

Bellach mae’r casgliad llawn wedi’i drosi’n gasgliad digidol a’i gatalogio a bydd ar gael yn Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru.

Mae Fforwm Treftadaeth Gogledd Ddwyrain Cymru yn meddu ar hawlfraint yr holl ddelweddau.

Rydym yn ddiolchgar am y cymorth a dderbyniodd y prosiect gan Gronfa Gymunedol Gwynt y Môr. Diolchwn hefyd i’r gwirfoddolwyr sydd wedi cymryd rhan yn y prosiect.

Orielau

Gweler detholiad o’r ffotograffiaeth yn yr orielau isod.