Yn ystod 2024, cynhaliwyd arddangosfa ‘Wrth ein boddau wrth lan y môr’ mewn llyfrgelloedd a lleoliadau eraill ym Mhrestatyn, y Rhyl a Rhuddlan i ddangos rhai o ffotograffau J T Burrows. Roedd yr arddangosfa’n rhoi cipolwg ar J T Burrows a’i deulu, ac yn dangos y newidiadau ym Mhrestatyn wrth i’r dref ddatblygu’n gyrchfan glan y môr o’r cyfnod Fictoraidd hwyr hyd at ddechrau’r ugeinfed ganrif.
Cynhaliwyd sesiynau galw heibio er mwyn i’r gymuned weld ystod ehangach o ffotograffau a chynorthwyo i roi rhagor o wybodaeth. Cafodd criwiau o blant ysgol sesiynau ‘Bryd hynny a Nawr’ lle cawsant ddysgu am J T Burrows a gweld sut roedd Prestatyn wedi newid yn ystod y 130 o flynyddoedd diwethaf drwy gymharu hen ffotograffau gyda golygfeydd presennol. Rhoddwyd sgwrs i Gymdeithas Hanes Sir y Fflint hefyd. Mae croeso i chi gysylltu â Fforwm Treftadaeth Gogledd Ddwyrain Cymru os oes gan eich sefydliad chi ddiddordeb mewn sgwrs am y casgliad ffotograffau.
Cewch ragor o fanylion am J T Burrows a’r casgliad dan y pennawd TREFTADAETH ar y wefan hon.
Blog articles will only appear in the language they are provided in by the author.
Yn yr iaith y’u hysgrifennwyd gan yr awdur yn unig y bydd yr erthyglau blog yn ymddangos.