
Yn ystod yr Oesoedd Canol cynnar fe drowyd Berfeddwlad gogledd-ddwyrain Cymru’n faes brwydr dro ar ôl tro wrth i’r ffin â Lloegr gael ei groesi gan wahanol rai, Sacsoniaid a Normaniaid, oedd am ddwyn y rhan allweddol yma o’r wlad o ddwylo’r Cymry.
Rhuddlan oedd cartref prif lys Gruffudd ap Llywelyn (m.1063), brenin dros Gymru gyfan, a ganwyd Dafydd ap Llywelyn (m.1246), Tywysog Gwynedd, yng Nghastell Hen Blas, Bagillt.
Mae cestyll tywysogion Gwynedd a Phowys yng Nghaergwrle, Dinas Brȃn, Ewlo a Rhuthun, yn britho’r tir rhwng cadarnleoedd concwest Edward 1af yn y Fflint a Rhuddlan. Mae yma hefyd cestyll a adeiladwyd gan arglwyddi’r Gororau mewn llefydd fel y Waun a Dinbych. A chestyll trefi Seisnig gogledd-ddwyrain Cymru oedd targed cyntaf gwrthryfel Owain Glyndŵr ar ei ddechrau ym mis Medi 1400.
Image: Trwy Garedigrwydd Vicky Perfect