Crefydd

Crefydd

Yn ogystal ȃ’i groesau cerrig Canol Oesol, ei ffynhonnau sanctaidd a’i seintiau, mae gan y rhanbarth ddwy abaty Sisteraidd sef abaty Dinas Basing ac abaty Glyn y Groes oedd yn rhan bwysig o fywydau’r bobl nes i Harri’r Wythfed eu diddymu. Ac er gwaethaf arweiniad esgobion Llanelwy i gyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg fel rhan o’r Diwygiad Protestanaidd, fe barhaodd Pabyddiaeth yn gryf yn y rhanbarth, fel y gwyddom o ferthyriad William Davies (m.1593) a Richard Gwyn (m.1584).

Yn ogystal ȃ’r eglwys gadeiriol yn Llanelwy, mae nifer o eglwysi deugorff yn Nyffryn Clwyd, a’r “eglwysi Stanley” yn y Groesffordd, yr Wyddgrug a Wrecsam. Mae hefyd cannoedd o gapeli, weithiau pedwar neu bump yn yr un pentref a phob un ers talwm dan ei sang ar y Sul, yn tystio i gryfder Anghydffurfiaeth yn y rhanbarth o’r 18fed i’r 20fed ganrif, dan arweiniad gweinidogion megis Thomas Jones, Ddinbych (1756-1820).