Mae miloedd o fideos a rhaglenni teledu wedi’u digideiddio o Archif Genedlaethol y BFI ac archifau ffilm partneriaid o wahanol ranbarthau a gwledydd y DU ar gael i’w pori a’u mwynhau, neu i’w defnyddio at ddibenion ymchwil ac astudio – rhai ohonynt yn gyfarwydd ac yn gofiadwy, ac eraill yn brin ac heb gael eu gweld ers degawdau.
Hyd yn hyn, dim ond Llyfrgelloedd Wrecsam a’r Rhyl yng ngogledd-ddwyrain Cymru sydd â’r cyfleuster hwn; i gael rhagor o wybodaeth a manylion am sut i ddefnyddio’r cyfleuster, ewch i https://www.bfi.org.uk/bfi-replay
Blog articles will only appear in the language they are provided in by the author.
Yn yr iaith y’u hysgrifennwyd gan yr awdur yn unig y bydd yr erthyglau blog yn ymddangos.
