Digwyddiadau

  • Gwe
    21
    Ion
    2022
    7:00 pmVia Zoom

    Bydd y sgwrs yma yn amlinellu’r wyddoniaeth sy tu ôl i’r newid yn yr hinsawdd a rhai o’r dulliau y gellir yn ymarferol eu defnyddio i’w drwsio. Bydd yn ymchwilio i orddibyniaeth y ddynoliaeth ar egni tanwydd ffosil a sut mae hynny wedi achosi newidiadau yn yr atmosffer, a hynny yn ei dro yn achosi i’r hinsawdd newid ar raddfa byd-eang.

    Bydd ail hanner y ddarlith yn edrych ar ffynonellau amgen o danwydd ac yn ystyried a allan nhw weithio yn ymarferol yn y byd sydd ohoni, yn ogystal â beth gellir ei wneud i liniaru ar yr hyn sydd wedi cael ei allyrru i’r atmosffer yn barod. Bydd y ddarlith yn gorffen wrth edrych ar yr hyn sydd wedi bod yn rhwystro newid rhag digwydd.

    COFRESTRU: Cymraeg – Cwmulus

  • Gwe
    18
    Maw
    2022
    7:00 pmVia Zoom

    Giraldus Cambrensis: gossiping and crusading around Wales, 1188
    Sgwrs yn Saesneg gan Mike Farnworth (gyda gwestai arbennig)
    Nos Wener, 18fed Mawrth 2022, 7:00 YH
    Roedd Gerallt Gymro yn offeiriad, awdur, ŵyr y Dywysoges Nest, ond yn bwysicaf roedd e’n glebrwr ofnadwy. Yn ystod gwanwyn cynnar 1188 hebryngodd Gerallt Archesgob Caergaint o gwmpas Cymru, yn recriwtio dynion i ymladd yn y drydedd Groesgad. Pedair blynedd yn ddiweddarach ysgrifennodd lyfr enwog am ei brofiadau.

    Mae’r sgwrs hon yn rhoi cipolwg ar fywyd yng Nghymru annibynnol yn ystod Oes y Tywysogion, trwy fapiau, lluniau, straeon, a geiriau Gerallt Gymro ei hun. Mae llawer o ddigwyddiadau go iawn yn ei lyfr, ond doedd Gerallt ddim yn gallu peidio ag adrodd straeon od o ardaloedd ei daith hefyd.

    cwmulus@gmail.com

    Cliciwch ar y botwm cwmwl i gofrestru

  • Iau
    09
    Meh
    2022
    7:00 pmZoom

    Ffynhonnau Carpiau Cymru
    Sgwrs yn Gymraeg gan Howard Huws – gyda chyfieithiad opsiynol
    Nos Wener, 17eg Mehefin 2022, 7:00 YH
    Mae yng Nghymru gannoedd o ffynhonnau sanctaidd, ac yn eu plith nifer fechan o rai un lle arferid (ac arferir) defod gadael carpiau ynddynt neu gerllaw iddynt, neu lle ceisid rhagweld dyfodol claf trwy roi dillad yn y ffynnon ei hun. Bydd y cyflwyniad hwn yn bwrw golwg ar y dystiolaeth hanesyddol ynglŷn â’r arferion hyn yng Nghymru a thu hwnt, a’u dosbarthiad daearyddol, gan ddehongli’r wybodaeth sydd ar gael a chloriannu honiadau fod a wnelo’r arfer â phaganiaeth neu Geltigiaeth. Edrychir ar arwyddocâd adnewyddiad yr arfer o ddiwedd yr ugeinfed ganrif ymlaen, hefyd.

    Cyflwynir gan Howard Huws, Ysgrifennydd Cymdeithas Ffynhonnau Cymru a golygydd “Llygad y Ffynnon”, sydd wedi treulio blynyddoedd yn astudio ffynhonnau sanctaidd ein gwlad.

    Cliciwch ar y botwm cwmwl i gofrestru

    http://www.cwmulus.org.uk

  • Sad
    10
    Medi
    2022
    Sul
    11
    Medi
    2022
    Tref Rhuthun a'r Cylch

    Dydd Sadwrn 10 & Dydd Sul 11 o Fedi

    Bydd nifer o gartrefi ac adeiladau hanesyddol, diddorol sy'n anarferol ac yn hardd yn cael eu hagor i'r cyhoedd fis Medi er mwyn cynnal teithiau o'u cwmpas a sgyrsiau yn eu cylch. Mae'r penwythnos treftadaeth diddorol hwn yn rhan o raglen sy'n digwydd ledled Ewrop sy'n cael ei gynnal yma gan Gymdeithas Ddinesig Rhuthun a'r Cylch, Cadw a Chyngor Sir Ddinbych.

    Drysau-agored cadw.llyw.cymru/ymweld/be-syn-digwydd/drysau-agored

    Gellir ei gael o unrhyw Lyfrgell yn Sir Ddinbych yn mis Awst., o Ganolfannau Gwybodaeth a siopau lleol Hefyd gellir ei lawrlwytho o'r rhaglen yma.