Event Information:
-
Iau09Meh20227:00 pmZoom
Ffynhonnau Carpiau Cymru
Ffynhonnau Carpiau Cymru
Sgwrs yn Gymraeg gan Howard Huws – gyda chyfieithiad opsiynol
Nos Wener, 17eg Mehefin 2022, 7:00 YH
Mae yng Nghymru gannoedd o ffynhonnau sanctaidd, ac yn eu plith nifer fechan o rai un lle arferid (ac arferir) defod gadael carpiau ynddynt neu gerllaw iddynt, neu lle ceisid rhagweld dyfodol claf trwy roi dillad yn y ffynnon ei hun. Bydd y cyflwyniad hwn yn bwrw golwg ar y dystiolaeth hanesyddol ynglŷn â’r arferion hyn yng Nghymru a thu hwnt, a’u dosbarthiad daearyddol, gan ddehongli’r wybodaeth sydd ar gael a chloriannu honiadau fod a wnelo’r arfer â phaganiaeth neu Geltigiaeth. Edrychir ar arwyddocâd adnewyddiad yr arfer o ddiwedd yr ugeinfed ganrif ymlaen, hefyd.Cyflwynir gan Howard Huws, Ysgrifennydd Cymdeithas Ffynhonnau Cymru a golygydd “Llygad y Ffynnon”, sydd wedi treulio blynyddoedd yn astudio ffynhonnau sanctaidd ein gwlad.
Cliciwch ar y botwm cwmwl i gofrestru