-
Maw28Maw202310.30am - 3.30pmCarchar Rhuthun
Dydd Mawrth 28 Mawrth
Cyfle i weld amrywiaeth o arddangosfeydd gan sefydliadau yn cynnwys Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru, Cymdeithas Hanes Rhuthun, Amgueddfa Corwen, Cymdeithas Bwcle, Cyfeillion Mynwent Wrecsam, Menter Iaith ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, yn ogystal â chyfle i gael gweld Carchar Rhuthun cyn iddo agor ar 1 Ebrill.
Mae croeso i bawb.
Ceir rhagor o wybodaeth gan Jo Danson ar 01352 740385 neu trwy anfon e-bost at jo.danson7@gmail.com
-
Mer31Mai2023Cyfres o lwybrau digidol yw North East Wales Trails a ddatblygwyd gan gymunedau lleol ledled Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsham i'ch helpu chi ddarganfod mwy am yr ardal hynod ddiddorol hon. Mae pob llwybr yn tynnu sylw at yr hyn sy'n arbennig, gan fod yn llawn gwybodaeth, lluniau a straeon.Mae'r llwybrau mor amrywiol â'r ardal. Ewch am dro ar hyd yr arfordir, darganfyddwch ein cefn gwlad neu ymdroelliwch o amgylch un o'r pentrefi. Darganfyddwch dreftadaeth gyfoethog yr ardal - o'r caerau i gestyll cerrig - neu archwiliwch ein dreftadaeth ddiwydiannol. Gwelwch sut mae gweithdy calch yn gweithio a gwrandewch ar sut beth oedd gweithio gyda'r merlod yn ddwfn o dan y ddaear yn ein pyllau glo.Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru aâr Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
-
Sul23Gor2023Sad16Medi20231pm - 4pm NEUADD GOFFA CEIRIOG, STRYD FAWR, GLYNCEIRIOG. LL207EH
Dadfeddiannu Cymuned 100 mlynedd yn ddiweddarach
Cynllun cronfeydd dwr Warrington a'r frwydr i achub Dyffryn Ceiriog wedi'u cyflwyno mewn arddangosfa addysgiadol
Bob Dydd Sadwrn
Gorfennaf 15 - Medi 16 1pm -4pm Neuadd Goffa Ceiriog
Mynediad am ddim
Gwerthfawrogirrhoddion.
http://www.ceirioguchaf.co.uk/CeiriogUchaf-CC/centenary_news-18429.aspx
-
Sad19Awst202310am-4pmCanolfan Gymunedol Craig-y-Don, Queen’s Road, Craig-y-Don, Llandudno. LL30 1TE
Mynediad hawdd Lluniaeth ysgafn
Pris Mynediad £2 Parcio am ddim drwy’r dydd Bws Rhif 5 o’r dref (NID 5X)
Gwybodaeth ychwanegol a ffurflenni archebu cysylltwch efo: Karlyn ar 01492-440763
os gwelwch yn dda
Trefnir gan: Clwb Cardiau Post Gogledd Cymru.
-
Sad19Awst2023Sul20Awst202311am - 3pmParc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas Tŷ Basingwerk Maes Glas Treffynnon CH8 7GR
Dangosiadau a grwpiau newydd a chyffrous i chi eu cyfarfod yn ystod y penwythnos hwn o ailgreadau o gyfnodau amrywiol. Dewch am dro trwy ein llinell amser fyw. Bydd cerddoriaeth o's oes a fu i'w mwynhau a manion i's prynu.
ff: 01352 714172
e: info@greenfieldvalley.comhttps://greenfieldvalley.com/discover-greenfield-valley-history/
-
Sul03Medi2023Sad30Medi2023
Ym mis Medi eleni, bydd mwy na 200 o safleoedd hanesyddol, tirnodau a pherlau cudd Cymru yn cynnig mynediad, digwyddiadau neu deithiau tywys am ddim i ymwelwyr.
Mae'r cyfan yn rhan o wŷl Drysau Agored — cyfraniad blynyddol Cymru i'r fenter Diwrnodau Treftadaeth Ewropeaidd, sy'n gwahodd sefydliadau treftadaeth, perchnogion preifat, awdurdodau lleol ac eraill i agor eu drysau neu gynnig gweithgareddau i'r cyhoedd yn rhad ac am ddim yn ystod mis Medi.
Wedi'i hariannu a'i threfnu gan Cadw, bydd gŵyl boblogaidd treftadaeth adeiledig Cymru eleni yn annog trigolion Cymru a’i hymwelwyr i ddarganfod rhai o safleoedd y wlad sy’n llai adnabyddus ac yn llai o ran maint ― gyda nifer ohonynt fel arfer ar gau i'r cyhoedd.
https://cadw.llyw.cymru/ymweld/be-syn-digwydd/open-doors-events
-
Gwe17Tach2023Maw31Rhag2024
Fy enw i yw Lowri, a fi yw Swyddog Allgymorth Cymunedol Gogledd Cymru ar gyfer ‘Hawlio Heddwch: Prosiect Canmlwyddiant Deiseb Heddwch y Menywod’, ariannwyd gan
Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae'r prosiect yn ddathliad blwyddyn gron o'r 390,296 o ferched Cymru a lofnododd ddeiseb dros heddwch, a'i chyflwyno i fenywod America yn Efrog Newydd, yn gofyn iddynt ddefnyddio eu dylanwad ar lywodraeth America.
Yn ystod 2023/24, bydd y prosiect yn cynnal digwyddiadau a gweithgareddau ledled Cymru i Gofio eu stori, Dathlu’r canmlwyddiant a Gwireddu eu dymuniadau trwy ysbrydoli gweithredoedd dros heddwch yn y dyfodol.Rydym wrthi'n meithrin partneriaethau gyda sefydliadau a grwpiau ledled Cymru i ddarparu gweithgareddau a digwyddiadau wedi'u hariannu gan y prosiect, a byddai hi’n wych petaech chi eisiau cymryd rhan. Gallai'r gweithgareddau fod yn sgyrsiau, gweithdai, digwyddiadau addysgol, arddangosfeydd bach, a mwy... Rydym am fod yn hyblyg er mwyn sicrhau ein bod yn cynhyrchu gweithgareddau cyffrous a diddorol, felly byddem wrth ein bodd yn clywed eich mewnbwn ar y ffordd orau o gydweithio.
O fis Tachwedd byddwn hefyd yn chwilio am nifer fawr o wirfoddolwyr i drawsgrifio'r miloedd o enwau ar y ddeiseb, fel y gall cenedlaethau'r dyfodol gweld pwy ei lofnododd. Efallai gall eich sefydliad ein helpu yn ein hymgais?I ddysgu mwy am y prosiect, ewch i: Apêl Merched dros Heddwch, 1923-24 - Welsh Centre for International Affairs (wcia.org.uk)
Os hoffech drafod cymryd rhan, neu ddysgu mwy am y prosiect, bydden i wrth fy modd petaech chi’n cysylltu.Dymuniadau gorau,
Lowri Kirkham
Swyddog Ymgysylltu Cymunedol, gogledd Cymruhttps://www.wcia.org.uk/peace-heritage/womens-peace-petition/
Hoffai tîm Deiseb Heddwch y Merched a Gwasanaethau Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru eich gwahodd i:LowriKirkham@academiheddwch.cymru 100 mlynedd yn ôl, trefnodd Merched Cymru ddeiseb wedi’i harwyddo gan 390,296 o fenywod i’w hanfon i America mewn cist dderw fawr gyda’r nod o greu byd mwy heddychlon ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Drwy gydol 2024 rydym yn rhannu stori’r ddeiseb ledled Cymru a thu hwnt yn ogystal â recriwtio gwirfoddolwyr i helpu i drawsgrifio’r ddeiseb mewn partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bydd y prynhawn hynod ddiddorol hwn yn cynnwys: • Sgwrs fer am ddeiseb Heddwch Merched Cymru gan dîm cymunedol deiseb Heddwch. • Clywch gan dîm yr Archif am rywfaint o'u hymchwil a sut y gallant eich helpu i ddarganfod eich gorffennol. • Dysgwch am drawsgrifio neu os ydych eisoes yn wirfoddolwr trawsgrifio mynnwch awgrymiadau a chyngor. • Gweld y tudalennau deiseb sydd ar gael o'ch ardal.
Prynhawn archif ym Mhenarlâg ar ddydd Gwener 15 Mawrth, 1pm - 3.30pm yn Archifau Penarlâg, Yr Hen Reithordy, Rheithordy Ln, Penarlâg, Glannau Dyfrdwy CH5 3NN. Bydd lluniaeth ar gael. Mae'r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim ac fe'i cynhelir trwy gyfrwng y Saesneg. I gadw lle AM DDIM, atebwch neu e-bostiwch –