-
Gwe17Tach2023Maw31Rhag2024
Fy enw i yw Lowri, a fi yw Swyddog Allgymorth Cymunedol Gogledd Cymru ar gyfer ‘Hawlio Heddwch: Prosiect Canmlwyddiant Deiseb Heddwch y Menywod’, ariannwyd gan
Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae'r prosiect yn ddathliad blwyddyn gron o'r 390,296 o ferched Cymru a lofnododd ddeiseb dros heddwch, a'i chyflwyno i fenywod America yn Efrog Newydd, yn gofyn iddynt ddefnyddio eu dylanwad ar lywodraeth America.
Yn ystod 2023/24, bydd y prosiect yn cynnal digwyddiadau a gweithgareddau ledled Cymru i Gofio eu stori, Dathlu’r canmlwyddiant a Gwireddu eu dymuniadau trwy ysbrydoli gweithredoedd dros heddwch yn y dyfodol.Rydym wrthi'n meithrin partneriaethau gyda sefydliadau a grwpiau ledled Cymru i ddarparu gweithgareddau a digwyddiadau wedi'u hariannu gan y prosiect, a byddai hi’n wych petaech chi eisiau cymryd rhan. Gallai'r gweithgareddau fod yn sgyrsiau, gweithdai, digwyddiadau addysgol, arddangosfeydd bach, a mwy... Rydym am fod yn hyblyg er mwyn sicrhau ein bod yn cynhyrchu gweithgareddau cyffrous a diddorol, felly byddem wrth ein bodd yn clywed eich mewnbwn ar y ffordd orau o gydweithio.
O fis Tachwedd byddwn hefyd yn chwilio am nifer fawr o wirfoddolwyr i drawsgrifio'r miloedd o enwau ar y ddeiseb, fel y gall cenedlaethau'r dyfodol gweld pwy ei lofnododd. Efallai gall eich sefydliad ein helpu yn ein hymgais?I ddysgu mwy am y prosiect, ewch i: Apêl Merched dros Heddwch, 1923-24 - Welsh Centre for International Affairs (wcia.org.uk)
Os hoffech drafod cymryd rhan, neu ddysgu mwy am y prosiect, bydden i wrth fy modd petaech chi’n cysylltu.Dymuniadau gorau,
Lowri Kirkham
Swyddog Ymgysylltu Cymunedol, gogledd Cymruhttps://www.wcia.org.uk/peace-heritage/womens-peace-petition/
Hoffai tîm Deiseb Heddwch y Merched a Gwasanaethau Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru eich gwahodd i:LowriKirkham@academiheddwch.cymru 100 mlynedd yn ôl, trefnodd Merched Cymru ddeiseb wedi’i harwyddo gan 390,296 o fenywod i’w hanfon i America mewn cist dderw fawr gyda’r nod o greu byd mwy heddychlon ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Drwy gydol 2024 rydym yn rhannu stori’r ddeiseb ledled Cymru a thu hwnt yn ogystal â recriwtio gwirfoddolwyr i helpu i drawsgrifio’r ddeiseb mewn partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bydd y prynhawn hynod ddiddorol hwn yn cynnwys: • Sgwrs fer am ddeiseb Heddwch Merched Cymru gan dîm cymunedol deiseb Heddwch. • Clywch gan dîm yr Archif am rywfaint o'u hymchwil a sut y gallant eich helpu i ddarganfod eich gorffennol. • Dysgwch am drawsgrifio neu os ydych eisoes yn wirfoddolwr trawsgrifio mynnwch awgrymiadau a chyngor. • Gweld y tudalennau deiseb sydd ar gael o'ch ardal.
Prynhawn archif ym Mhenarlâg ar ddydd Gwener 15 Mawrth, 1pm - 3.30pm yn Archifau Penarlâg, Yr Hen Reithordy, Rheithordy Ln, Penarlâg, Glannau Dyfrdwy CH5 3NN. Bydd lluniaeth ar gael. Mae'r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim ac fe'i cynhelir trwy gyfrwng y Saesneg. I gadw lle AM DDIM, atebwch neu e-bostiwch – -
Gwe15Maw20241pm-3.30pmArchifau Penarlâg, Yr Hen Reithordy, Rheithordy Ln, Penarlâg, Glannau Dyfrdwy CH5 3NN.
Hoffai tîm Deiseb Heddwch y Merched a Gwasanaethau Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru eich gwahodd i:LowriKirkham@academiheddwch.cymru 100 mlynedd yn ôl, trefnodd Merched Cymru ddeiseb wedi’i harwyddo gan 390,296 o fenywod i’w hanfon i America mewn cist dderw fawr gyda’r nod o greu byd mwy heddychlon ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Drwy gydol 2024 rydym yn rhannu stori’r ddeiseb ledled Cymru a thu hwnt yn ogystal â recriwtio gwirfoddolwyr i helpu i drawsgrifio’r ddeiseb mewn partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bydd y prynhawn hynod ddiddorol hwn yn cynnwys: • Sgwrs fer am ddeiseb Heddwch Merched Cymru gan dîm cymunedol deiseb Heddwch. • Clywch gan dîm yr Archif am rywfaint o'u hymchwil a sut y gallant eich helpu i ddarganfod eich gorffennol. • Dysgwch am drawsgrifio neu os ydych eisoes yn wirfoddolwr trawsgrifio mynnwch awgrymiadau a chyngor. • Gweld y tudalennau deiseb sydd ar gael o'ch ardal. Edrychwn ymlaen at eich croesawu bryd hynny a rhannu hanes y ddeiseb a’r merched lleol a gyfrannodd ati.
Prynhawn archif ym Mhenarlâg ar ddydd Gwener 15 Mawrth, 1pm - 3.30pm yn Archifau Penarlâg, Yr Hen Reithordy, Rheithordy Ln, Penarlâg, Glannau Dyfrdwy CH5 3NN. Bydd lluniaeth ar gael. Mae'r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim ac fe'i cynhelir trwy gyfrwng y Saesneg. I gadw lle AM DDIM, atebwch neu e-bostiwch –Lowri Kirkham - Community Outreach officer
-
Llu15Ebr20246:00 pmCledwyn 3, Prif Adeilad Y Celfyddydau, Prifygsol Bangor (LL57 2DG)
Dr Ciarán Reilly (CSHIHE / Maynooth)
SEFYDLIAD YMCHWIL YSTADAU CYMRU
YSGOL HANES, Y GYFRAITH & GWYDDORAU CYMDEITHAS SEMINARAU YMCHWILCROESO I BAWB
Am fwy o wybodaeth |iswe@bangor.ac.uk
-
Mer17Ebr2024Maw30Ebr20247.30pm - 9pmYr Hen Lys, Rhuthun 17.4. 2024. Archifdy Carcher Rhuthun 30.4.2024
Y stori tu ôl 'i'r cloc a'r dyn mae'n ei gofau - sgwrs gan Fiona Gale
Capasiti cyfyngedig sydd gan y ddau ddigwyddiad
Os oes gennych ddiddordeb, i archebu lle cysylltwch a Heather Williams
Neu 01824 704998
Isod gyfer ddigwyddiad pellach 30.4.2024
-
Sad20Ebr202410:00 amParc Treftadaeth, Maes Glas, Treffynnon CH87GR
Glo a Chocos 10am - 3pm 20 Ebrill 2024
Rhywbeth at ddant pawb addas i bob oedran
Trwy gyflwyniadau bywiog, arbofion ymarferol asesiynau creadigol.
Dewch i ddarganfod sut y siapiwyd y presennol gan y gorffennol, a sut gall hanes ysbrydoli ein dyfodol.
Am ragor o wybodaeth ewch i info@greenfieldvalley.com
Dilynwch Teithwyr Chwilfrydig ar X @cur_trav
Diliynwch Caru Aber Dyfrdwy @ourdeeestuaryar Facebook Instagram ac X
-
Maw30Ebr202410am - 12-00Archifdy Carchar Rhuthun
Ewch ar daith o amgylch yr Archifau a darganfod dogfennau hynod ddiddorol yn ymwneud â Joseph Peers a Thŵr y Cloc - dan arweniad yr archifydd, Sarah Roberts.
Capasiti cyfyngedig sydd gan y ddau ddigwyddiad
Os oes gennych ddiddordeb, i archebu lle cysylltwch â Heather Williams
Neu 01824 704998
-
Maw06Awst202414.30-16.30Llyfrgell Prestatyn, 21 Rhodfa'r Brenin, Prestatyn
Arddangosfa o ffotograffau a dynnwyd gan JT Burrows yn dangos datblygiad Prestatyn fel tref glan y môr a hefyd camerau o'r cyfnod
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Heather Williams Ffon 07979677811 neu drwy e-bost htnw@btinternet.com
Ariannwyd gan Gwynt y Môr
-
Gwe16Awst202410.30 -12.30Llyfrgell Prestatyn, 21 Rhodfa'r Brenin, Prestatyn
Arddangosfa o ffotograffau a dynnwyd gan JT Burrows yn dangos datblygiad Prestatyn fel tref glan y môr a hefyd camerau o'r cyfnod
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Heather Williams Ffon 07979677811 neu drwy e-bost htnw@btinternet.com
Ariannwyd gan Gwynt y Môr
-
Sul22Rhag2024Iau02Ion2025
Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda i bawb!