-
Sad14Maw202011 am-4 pmpin Archifau Sir Ddinbych 46 Heol Clwyd, LL15 1HP Rhuthun, Sir Ddinbych
Gwahoddir chi i ddod i weld ystod eang o arddangosfeydd a chwrdd â grwpiau treftadaeth a hanes lleol ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru yn Ffair Flynyddol Fforwm Treftadaeth Gogledd Ddwyrain Cymru a gynhelir gan Archifau Sir Ddinbych yng Ngharchar Rhuthun.
Sefydliadau sy’n cymryd rhan:
Archifau Sir Ddinbych
Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych
Carchar Rhuthun
Archifdy Sir Fflint
Cymdeithas hanes Sir Ddinbych
Adran hanes Prifysgol Glyndwr
Grŵp treftadaeth Llaneurgain
Ymddiriedolaeth Treftadaeth newydd Glyn Valley
Fforwm Treftadaeth Gogledd Ddwyrain Cymru
Cymdeithas Ddinesig Rhuthun a'r cylch
Cymdeithas Bwcle
Dyddio hen dai CymreigDyddiad: Dydd Sadwrn 14 Mawrth
Lleoliad: Archifdy Sir Ddinbych, Carchar Rhuthun, 46 Stryd Clwyd, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1HP
Amser: 11am i 4pm Mynediad am ddim – croesawir bob oedran01824 708250 -
Gwe10Ebr2020Maw30Meh2020
Mae gan Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru gystadleuaeth ysgrifennu ‘Llythyr at Blant y Dyfodol’ ar gyfer plant oed ysgol yn Sir Ddinbych a Sir y Fflint. Ysgrifenna lythyr, a fydd yn cael ei ddarllen gan blant mewn 100 mlynedd, i ddweud wrthyn nhw sut mae dy fywyd wedi newid ar ôl i argyfwng y coronafeirws dy anfon di gartref o’r ysgol!
- Beth ydych chi’n ei wneud pob dydd?
- Sut beth ydi bod gartref drwy’r amser a methu gweld eich ffrindiau na’ch teulu estynedig?
- Wyt ti’n gorfod mynd i’r ysgol ac, os felly, ydi hi’n dawel ofnadwy yno?
- Sut mae dy deulu yn ymdopi â gweithio gartref neu’n mynd allan i wneud gwaith hanfodol?
- Yn fwy na dim, dyweda wrth blant y dyfodol am y pethau rwyt ti’n eu colli ac yn eu mwynhau fwyaf!
Cofia gynnwys llun i ddangos sut beth ydi byw yn ystod y cyfnod hanesyddol a rhyfedd hwn! E-bostiwch eich profiadau/delweddau, gyda’ch enw a’ch cyfeiriad, i: archives@flintshire.gov.uk os ydych chi’n byw yn Sir y Fflint neu i archives@denbighshire.gov.uk os ydych chi’n byw yn Sir Ddinbych.Bydd pob llythyr yn cael ei gynnwys yn Archif ‘Llythyr at Blant y Dyfodol’ ac yn cael ei gadw er mwyn i genedlaethau’r dyfodol eu darllen. Bydd yr enillydd yn derbyn taleb Amazon gwerth £20 a bydd y llythyr yn cael ei rannu ar-lein.
Liz Newman
Archifydd
Archifdy Sir y Fflint
Addysg ac Ieuenctid
Cyngor Sir y Fflint
____________________________________________________________________________________
Ffôn | 01244 532414
Ebost | liz.newman@flintshire.gov.uk
____________________________________________________________________________________
http://www.flintshire.gov.uk | http://www.siryfflint.gov.ukFy nyddiau gwaith yw Llun, Mawrth, Iau a Gwener
-
Gwe10Ebr2020Maw30Meh2020
‘Fy Mywyd yn ystod y Cyfyngiadau Symud’
Mae ar Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru eisiau cofnodi profiadau pobl Sir y Fflint a Sir Ddinbych yn ysod y cyfnod hanesyddol hwn. Rydym ni’n cadw archifau er mwyn diogelu cofnodion hanesyddol i helpu cenedlaethau’r dyfodol ddeall digwyddiadau, pobl a llefydd a fu. Rydym ni’n gobeithio creu archif wybodaeth a delweddau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol er mwyn eu helpu nhw i ddeall sut y bu i argyfwng y coronafeirws effeithio ar gymunedau a bywydau pobl.Ydych chi’n hunan-ynysu gartref neu’n mynd i’r gwaith mewn amgylchedd gwahanol neu ansicr? Sut mae’n effeithio ar eich bywyd pob dydd chi? Mae arnom ni eisiau clywed am y pethau cadarnhaol yn ogystal â’r pethau heriol ac ansefydlog! Os ydych chi’n cadw dyddiadur neu arnoch chi eisiau cyfrannu cerdd, darlun, llun rydych chi wedi’i beintio neu ffotograff yn dangos eich profiadau chi yn ystod y cyfyngiadau symud, yna mae arnom ni eisiau clywed gennych chi! Gall ffotograffau gynnwys lluniau o siopau ar gau, strydoedd gwag, llefydd sydd fel rheol yn ferw o brysurdeb yn dawel iawn neu fywyd gwyllt mewn mannau annisgwyl.
E-bostiwch eich profiadau/delweddau, gyda’ch enw a’ch cyfeiriad, i: archives@flintshire.gov.uk os ydych chi’n byw yn Sir y Fflint neu i archives@denbighshire.gov.uk os ydych chi’n byw yn Sir Ddinbych.
Byddwn yn dewis a dethol y cyfraniadau gorau i ffurfio rhan o gasgliad hanesyddol o atgofion i helpu cenedlaethau’r dyfodol ddeall effaith yr argyfwng ar drigolion gogledd ddwyrain Cymru.
Liz Newman
Archifydd
Archifdy Sir y FflintYR HEN REITHORDY, LÔN REITHORDY, PENARLÂG, SIR Y FFLINT, CH5 3NR
Addysg ac Ieuenctid
Cyngor Sir y Fflint________________________________________________________________________________
Ffôn | 01244 532364
Ebost | archives@flintshire.gov.uk____________________________________________________________________________________
http://www.flintshire.gov.uk | http://www.siryfflint.gov.ukFy nyddiau gwaith yw Llun, Mawrth, Iau a Gwener
-
Llu15Meh2020Mer31Maw2021
-
Sad17Hyd2020Gwe23Hyd2020Yr Wyddgrug, Sir y Fflint
Wythnos o weithgareddau a digwyddiadau yn ymwneud â threftadaeth, llenyddiaeth a chelf yn Yr Wyddgrug, Sir y Fflint a’r cyffiniau. Fe’i cynhelir yn ddwyieithog i gofio am yr awdur Daniel Owen tua diwedd mis Hydref o gwmpas pen-blwydd ei eni a’i farwolaeth yn y dref.
https://www.danielowenfestival.com/cy/