Event Information:
-
Gwe10Ebr2020Maw30Meh2020
LLYTHYR AT BLANT Y DYFODOL...
Mae gan Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru gystadleuaeth ysgrifennu ‘Llythyr at Blant y Dyfodol’ ar gyfer plant oed ysgol yn Sir Ddinbych a Sir y Fflint. Ysgrifenna lythyr, a fydd yn cael ei ddarllen gan blant mewn 100 mlynedd, i ddweud wrthyn nhw sut mae dy fywyd wedi newid ar ôl i argyfwng y coronafeirws dy anfon di gartref o’r ysgol!
- Beth ydych chi’n ei wneud pob dydd?
- Sut beth ydi bod gartref drwy’r amser a methu gweld eich ffrindiau na’ch teulu estynedig?
- Wyt ti’n gorfod mynd i’r ysgol ac, os felly, ydi hi’n dawel ofnadwy yno?
- Sut mae dy deulu yn ymdopi â gweithio gartref neu’n mynd allan i wneud gwaith hanfodol?
- Yn fwy na dim, dyweda wrth blant y dyfodol am y pethau rwyt ti’n eu colli ac yn eu mwynhau fwyaf!
Cofia gynnwys llun i ddangos sut beth ydi byw yn ystod y cyfnod hanesyddol a rhyfedd hwn! E-bostiwch eich profiadau/delweddau, gyda’ch enw a’ch cyfeiriad, i: archives@flintshire.gov.uk os ydych chi’n byw yn Sir y Fflint neu i archives@denbighshire.gov.uk os ydych chi’n byw yn Sir Ddinbych.Bydd pob llythyr yn cael ei gynnwys yn Archif ‘Llythyr at Blant y Dyfodol’ ac yn cael ei gadw er mwyn i genedlaethau’r dyfodol eu darllen. Bydd yr enillydd yn derbyn taleb Amazon gwerth £20 a bydd y llythyr yn cael ei rannu ar-lein.
Liz Newman
Archifydd
Archifdy Sir y Fflint
Addysg ac Ieuenctid
Cyngor Sir y Fflint
____________________________________________________________________________________
Ffôn | 01244 532414
Ebost | liz.newman@flintshire.gov.uk
____________________________________________________________________________________
http://www.flintshire.gov.uk | http://www.siryfflint.gov.ukFy nyddiau gwaith yw Llun, Mawrth, Iau a Gwener