Digwyddiadau

Event Information:

  • Gwe
    10
    Ebr
    2020
    Maw
    30
    Meh
    2020

    ‘Fy Mywyd yn ystod y Cyfyngiadau Symud’

    ‘Fy Mywyd yn ystod y Cyfyngiadau Symud’
    Mae ar Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru eisiau cofnodi profiadau pobl Sir y Fflint a Sir Ddinbych yn ysod y cyfnod hanesyddol hwn. Rydym ni’n cadw archifau er mwyn diogelu cofnodion hanesyddol i helpu cenedlaethau’r dyfodol ddeall digwyddiadau, pobl a llefydd a fu. Rydym ni’n gobeithio creu archif wybodaeth a delweddau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol er mwyn eu helpu nhw i ddeall sut y bu i argyfwng y coronafeirws effeithio ar gymunedau a bywydau pobl.

    Ydych chi’n hunan-ynysu gartref neu’n mynd i’r gwaith mewn amgylchedd gwahanol neu ansicr? Sut mae’n effeithio ar eich bywyd pob dydd chi? Mae arnom ni eisiau clywed am y pethau cadarnhaol yn ogystal â’r pethau heriol ac ansefydlog! Os ydych chi’n cadw dyddiadur neu arnoch chi eisiau cyfrannu cerdd, darlun, llun rydych chi wedi’i beintio neu ffotograff yn dangos eich profiadau chi yn ystod y cyfyngiadau symud, yna mae arnom ni eisiau clywed gennych chi! Gall ffotograffau gynnwys lluniau o siopau ar gau, strydoedd gwag, llefydd sydd fel rheol yn ferw o brysurdeb yn dawel iawn neu fywyd gwyllt mewn mannau annisgwyl.

    E-bostiwch eich profiadau/delweddau, gyda’ch enw a’ch cyfeiriad, i: archives@flintshire.gov.uk os ydych chi’n byw yn Sir y Fflint neu i archives@denbighshire.gov.uk os ydych chi’n byw yn Sir Ddinbych.

    Byddwn yn dewis a dethol y cyfraniadau gorau i ffurfio rhan o gasgliad hanesyddol o atgofion i helpu cenedlaethau’r dyfodol ddeall effaith yr argyfwng ar drigolion gogledd ddwyrain Cymru.

    Liz Newman

     Archifydd
     Archifdy Sir y Fflint

    YR HEN REITHORDY, LÔN REITHORDY, PENARLÂG, SIR Y FFLINT, CH5 3NR

    Addysg ac Ieuenctid
    Cyngor Sir y Fflint

    ________________________________________________________________________________
     Ffôn | 01244 532364
     Ebost | archives@flintshire.gov.uk

     

    ____________________________________________________________________________________
    http://www.flintshire.gov.uk | http://www.siryfflint.gov.uk

    Fy nyddiau gwaith yw Llun, Mawrth, Iau a Gwener