Digwyddiadau

Event Information:

  • Mer
    31
    Mai
    2023

    Darganfyddwch Gogledd Ddwyrain Cymru

    Cyfres o lwybrau digidol yw North East Wales Trails a ddatblygwyd gan gymunedau lleol ledled Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsham i'ch helpu chi ddarganfod mwy am yr ardal hynod ddiddorol hon. Mae pob llwybr yn tynnu sylw at yr hyn sy'n arbennig, gan fod yn llawn gwybodaeth, lluniau a straeon.
    Mae'r llwybrau mor amrywiol â'r ardal. Ewch am dro ar hyd yr arfordir, darganfyddwch ein cefn gwlad neu ymdroelliwch o amgylch un o'r pentrefi. Darganfyddwch dreftadaeth gyfoethog yr ardal - o'r caerau i gestyll cerrig - neu archwiliwch ein dreftadaeth ddiwydiannol. Gwelwch sut mae gweithdy calch yn gweithio a gwrandewch ar sut beth oedd gweithio gyda'r merlod yn ddwfn o dan y ddaear yn ein pyllau glo.
    Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.