Event Information:
-
Gwe15Maw20241pm-3.30pmArchifau Penarlâg, Yr Hen Reithordy, Rheithordy Ln, Penarlâg, Glannau Dyfrdwy CH5 3NN.
Prynhawn archif ym Mhenarlâg
Hoffai tîm Deiseb Heddwch y Merched a Gwasanaethau Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru eich gwahodd i:LowriKirkham@academiheddwch.cymru 100 mlynedd yn ôl, trefnodd Merched Cymru ddeiseb wedi’i harwyddo gan 390,296 o fenywod i’w hanfon i America mewn cist dderw fawr gyda’r nod o greu byd mwy heddychlon ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Drwy gydol 2024 rydym yn rhannu stori’r ddeiseb ledled Cymru a thu hwnt yn ogystal â recriwtio gwirfoddolwyr i helpu i drawsgrifio’r ddeiseb mewn partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bydd y prynhawn hynod ddiddorol hwn yn cynnwys: • Sgwrs fer am ddeiseb Heddwch Merched Cymru gan dîm cymunedol deiseb Heddwch. • Clywch gan dîm yr Archif am rywfaint o'u hymchwil a sut y gallant eich helpu i ddarganfod eich gorffennol. • Dysgwch am drawsgrifio neu os ydych eisoes yn wirfoddolwr trawsgrifio mynnwch awgrymiadau a chyngor. • Gweld y tudalennau deiseb sydd ar gael o'ch ardal. Edrychwn ymlaen at eich croesawu bryd hynny a rhannu hanes y ddeiseb a’r merched lleol a gyfrannodd ati.
Prynhawn archif ym Mhenarlâg ar ddydd Gwener 15 Mawrth, 1pm - 3.30pm yn Archifau Penarlâg, Yr Hen Reithordy, Rheithordy Ln, Penarlâg, Glannau Dyfrdwy CH5 3NN. Bydd lluniaeth ar gael. Mae'r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim ac fe'i cynhelir trwy gyfrwng y Saesneg. I gadw lle AM DDIM, atebwch neu e-bostiwch –Lowri Kirkham - Community Outreach officer