-
Sul22Rhag2024Iau02Ion2025
Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda i bawb!
-
Sad01Chw2025Gwe28Chw2025Llyfrgell Rhuthun, Stryd y Llys Rhuthun LL15 1DS
Detholiad o ddeunydd o safle archeolegol arwyddocaol a gloddiwyd yn ddiweddar ym
Mryneglwys, Sir Ddinbych.
Mae'r heneb ddefodol wedi’i ddatblygu dros gyfnod hir o amser er bod y prif gyfnod o weithgarwch o
fewn yr Oes yr Efydd gynnar. Mae yna esgyrn wedi’u hamlosgi, yn aml yn cyd-fynd â darnau o botiau ac,
mewn rhai achosion, offer fflint.
Mae'r ymchwiliad i'r garnedd gylchog wedi codi o chwilfrydedd perchennog y tir a chafodd ei ymchwil
gan Grŵp Archeoleg Bryniau Clwyd (GABC). Mae ymchwiliad y garnedd gylchog wedi'i gwblhau er bod
gwaith yn parhau i ddadansoddi a chofnodi'r canfyddiadau o'r ymchwiliad ac i archwilio'r dirwedd
ehangach.
Mae’r arddangosfa yn rhannu rhai o'r canfyddiadau cynnar gyda phobl sy'n byw yn yr ardal, sydd yn rhan
o'u hetifeddiaeth ddiwylliannol.
Mae GABC yn grŵp o wirfoddolwyr sy'n gweithio o dan fentoriaeth archeolegydd proffesiynol profiadol. -
Maw01Ebr20251pm - 4pmArchifau Gogledd Ddwyrain Cymru, Stryd Clwyd, Rhuthun, LL15 1HP
-
Llu01Medi2025Maw30Medi2025
Ymunwch â dathliad cenedlaethol treftadaeth adeiledig Cymru
Ym mis Medi eleni, bydd mwy na 200 o safleoedd hanesyddol, tirnodau a pherlau cudd Cymru yn cynnig mynediad, digwyddiadau neu deithiau tywys am ddim i ymwelwyr.
Mae'r cyfan yn rhan o wŷl Drysau Agored — cyfraniad blynyddol Cymru i'r fenter Diwrnodau Treftadaeth Ewropeaidd, sy'n gwahodd sefydliadau treftadaeth, perchnogion preifat, awdurdodau lleol ac eraill i agor eu drysau neu gynnig gweithgareddau i'r cyhoedd yn rhad ac am ddim yn ystod mis Medi.
Wedi'i hariannu a'i threfnu gan Cadw, bydd gŵyl boblogaidd treftadaeth adeiledig Cymru eleni yn annog trigolion Cymru a’i hymwelwyr i ddarganfod rhai o safleoedd y wlad sy’n llai adnabyddus ac yn llai o ran maint ― gyda nifer ohonynt fel arfer ar gau i'r cyhoedd.
https://cadw.llyw.cymru/ymweld/be-syn-digwydd/ddigwyddiad-drysau-agored
-
Sad18Hyd2025Sul19Hyd2025Prifysgol Bangor
Er gwybodaeth, mae’r datganiad I’r wasg ar gyfer yr Wyl Hanes a’r rhaglen I’r cyhoedd ar gyfer Dydd Sadwrn 18fed Hydref wedi’I chyhoeddi:
https://www.bangor.ac.uk/cy/digwyddiadau/gwyl-hanes-bangor
Mae croeso mawr i bawb i fynychu’r Wyl a gwerthfawrogwn os fedrwch rhannu’r wybodaeth yma ymysg eich cyfeillion a rhwydweithiau.