Digwyddiadau

Event Information:

  • Llu
    01
    Medi
    2025
    Maw
    30
    Medi
    2025

    Drysau Agored

    Ymunwch â dathliad cenedlaethol treftadaeth adeiledig Cymru

    Ym mis Medi eleni, bydd mwy na 200 o safleoedd hanesyddol, tirnodau a pherlau cudd Cymru yn cynnig mynediad, digwyddiadau neu deithiau tywys am ddim i ymwelwyr.

    Mae'r cyfan yn rhan o wŷl Drysau Agored — cyfraniad blynyddol Cymru i'r fenter Diwrnodau Treftadaeth Ewropeaidd, sy'n gwahodd sefydliadau treftadaeth, perchnogion preifat, awdurdodau lleol ac eraill i agor eu drysau neu gynnig gweithgareddau i'r cyhoedd yn rhad ac am ddim yn ystod mis Medi.

    Wedi'i hariannu a'i threfnu gan Cadw, bydd gŵyl boblogaidd treftadaeth adeiledig Cymru eleni yn annog trigolion Cymru a’i hymwelwyr i ddarganfod rhai o safleoedd y wlad sy’n llai adnabyddus ac yn llai o ran maint ― gyda nifer ohonynt fel arfer ar gau i'r cyhoedd.

    OpenDoors@llyw.cymru

    https://cadw.llyw.cymru/ymweld/be-syn-digwydd/ddigwyddiad-drysau-agored